top of page

BETH YW THERAPI?

Mae therapi yn lle diogel a chyfrinachol i chi edrych ar heriau eich bywyd. Mae'r sesiynau’n bennaf mewn arddull therapi siarad a gwrando empathig, ond gallwn hefyd ddefnyddio dulliau creadigol fel arlunio a gwaith tafluniol, yn ogystal ag ymwybyddiaeth somatig (o’r corff) a meddwlgarwch os oes angen.


Mae'r sesiynau'n para 50 munud ac fel arfer maent yn wythnosol, gallant fod yn dymor hir neu dymor byr. Mae'n well gen i weld pobl yn bersonol pan fo hynny'n bosibl, os na, mae sesiynau ar-lein neu ffôn ar gael hefyd.


Gallwn edrych ar eich bywyd gyda'n gilydd yn ogystal ag edrych ar y berthynas therapiwtig ei hun. Trwy'r cydweithrediad hwn y credaf y gall y posibilrwydd o newid ac iachâd ddigwydd.

PAM DDOD I THERAPI?

Mae pobl yn dod i therapi am bob math o resymau. Gall therapi eich helpu chi i ddeall a gwneud synnwyr o'ch byd. Efallai’ch bod yn ymdopi â digwyddiad anodd neu'n teimlo nad ydych yn ymdopi o gwbl. Efallai yr hoffech chi edrych ar brofiadau'r gorffennol neu ganolbwyntio ar offer newydd i fyw mewn ffordd fwy ymgysylltiol. Gallaf roi cymorth i chi drwy'r broses hon.


Mae fy sesiynau’n cael eu harwain gynnoch chi y cleient, yn y gred mai chi yw'r arbenigwr ar eich profiad.
Mae gen i brofiad o weithio gyda materion galar, colled, iselder, pryder, panig, bwlio, straen, dibyniaeth, trawma a pherthnasoedd.

IMG-20190519-WA0013_edited.jpg

AMDANAF

Helô, fy enw i yw Tess, cefais fy magu ym Mro Ddyfi, canolbarth Cymru a dyma lle dwi'n byw gyda fy nheulu. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio mewn practis preifat wedi'i leoli ger Machynlleth.

Rwyf yn cymrud refferals trwy'r DPJ Foundation, os ydych yn gweithio yn y sector amaethyddol gallwch cysylltu a nhw i gael cefnogaeth am ddim.


Wnes i ddod at waith cwnsela trwy ddiddordeb mewn deall mwy am natur y meddwl ac awydd i weithio mewn cysylltiad agos ag eraill.

 

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn tyfu bwyd ac yn y byd naturiol, a chredaf nad ydym ni ar wahân iddo. Rwyf hefyd yn gweld y meddwl a'r corff yn hafal yn eu deallusrwydd a'u heffaith ar ein meddylfryd.

 

Rwyf wedi byw ac astudio dramor ac rwy'n mwynhau’r amrywiaeth a chyffro o weld gwahanol ffyrdd o fod yn y byd, yn ogystal â bod â llawer o barch at draddodiadau ac iaith y wlad yma. Rwy’n ymarfer meddwlgarwch a myfyrdod ers sawl blwyddyn. Mae'r holl ffactorau hyn yn llywio fy agwedd at therapi, lle mae'r opsiwn i edrych ar y berthynas rhwng eich hunan, y byd a'ch canfyddiadau.

Rwy'n aelod o'r BACP (Cymdeithas Cynghorwyr a Seicotherapyddion Prydain) ac rwy'n gweithio yn ôl eu cod moesegol.

iStock-896857954.jpg

HYFFORDDIANT

Dwi wedi cwblhau:


Diploma Cwnsela,Tariki Trust 
Tystysgrif Sylfaen mewn Cwnsela,Tariki Trust 
BSc (hons) Bioleg Amgylcheddol, Prifysgol Nottingham


Mae datblygiad proffesiynol yn rhan hanfodol o waith cwnsela. Rwy'n parhau i ddysgu trwy gyrsiau hyfforddi, gweithdai ac astudio personol. Mae yna fwy o wybodaeth fan hyn.

iStock-882115988_edited.jpg

FY FFORDD O WEITHIO

Mae fy null gweithredu yn integredig, dull tosturiol a chysylltiedig sy'n cyfuno therapi siarad â dulliau creadigol, os ydech chi eisiau. Rydech chi’n unigryw ac mae angen i'ch sesiynau therapi adlewyrchu hynny. Mae fy nulliau o gwnsela’n cael eu harwain gan y cleient, gan fy mod yn credu mai chi yw'r arbenigwr ar eich profiadau.


Mae fy mhrif hyfforddiant yn rhoi pwyslais ar ymgysylltiad ystyriol ag eraill a'r byd. Gan ddefnyddio empathi, gonestrwydd a pharch cadarnhaol, rwy'n creu lle tosturiol ac anfeirniadol i chi archwilio eich byd. Yn ogystal â siarad, efallai y byddwn hefyd yn defnyddio dulliau creadigol fel arlunio, ymwybyddiaeth somatig (o’r corff) ac meddwlgarwch (mindfulness) os dewiswch.

bottom of page